*
* cynllunio mewnol gloss *
shan@glosshome.co.uk
07887 955179
*
*
*

hafan   |   gloss yw   |   gwaith gloss   |   portffolio   |   galeri   |   cysylltu â ni   |   english

*
*
flowers hygyrchedd curtains chest of drawers
decorative pattern
*
*

Gwybodaeth

Fe all rhai defnyddwyr y rhyngwyd ei chael hi'n anodd, neu weithiau'n amhosib ei defnyddio — oherwydd y ffordd y mae wedi ei dylunio. Yma, yn Gloss rydym yn darparu gwasanaethau a phrosiectau i'r safon uchaf ar gyfer ein cwsmeriaid, ac mae hyn yn berthnasol i'n gwefan hefyd. Dyma pam rydym ni'n ceisio sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch ac yn hawdd i'w ddefnyddio gan gymaint o bobl a phosib.

Rydym yn ymwybodol o'r dechnoleg diweddaraf sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl ag anabledd — ac rydym yn dylunio a gweithio'n barhaol i ailwampio tudalennau'r wefan gan sicrhau cydnawsedd â chymaint o'r systemau yma ag sy'n bosib.

Tra eich bod yn defnyddio'n gwefan, os dewch ar draws tudalen neu ran sydd yn anodd i'w deall neu ddefnyddio, a fyddech cystal a'n hysbysu yn syth os gwelwch yn dda? Rydym o hyd â diddordeb o glywed ffyrdd newydd o wella'r wefan a'i hygyrchedd, felly croesawn eich sylwadau.


Allweddell llwybr brys

Er mwyn sicrhau gwell hygyrchedd i ddefnyddwyr ar-lein, rydym wedi integreiddio allweddell llwybr brys i mewn i'n gwefan.

Cynhwysa'r llwybr brys:

  1. hafan
  2. gloss yw
  3. gwaith gloss
  4. portffolio
  5. galeri
  6. cysylltu â ni
  7. english

Er mwyn defnyddio'r allwedd hygyrch, dilynwch y cyfarwyddyd isod:

Windows PC's
Gwasgwch 'Alt' ( + 'Return' ar gyfer Explorer)

Apple Mac's
Gwasgwch 'Control' + 'Shortcut'


Gosodiadau pori

Yn anffodus, ni all lawer o'r porwyr gwe eich galluogi i newid y modd yr ydych yn edrych ar wefannau - ond dyma rai newidiadau syml a fydd yn eich galluogi i deilwra gwelededd y wefan ar gyfer eich anghenion unigol.

Er mwyn gwella gwelededd testun gwefan, gallwch ei wneud yn fwy neu'n llai a newid y dewisiadau ffont a lliw, rhag ofn eich bod angen lliw penodol i weld y wefan yn haws.

I ddefnyddwyr Microsoft Internet Explorer

I newid maint y ffont:

  • Ewch i 'View', dewiswch 'Text Size' ac yna'r maint ffont addas

I newid dewis ffont:

  • Ewch i 'Tools', sgroliwch i lawr gan agor y ffenestr 'Internet Options'. (Fe allai fod o dan 'View' os nad ydyw o dan 'Tools')
  • O dan 'History', dewiswch 'Fonts' gan nodi eich arddull o ddewis, gan glicio ar 'OK'
  • Ewch i 'Accessibility' o fewn 'Internet Options' a chliciwch ar 'Ignore font styles/ font sizes specified on Web pages'
  • Pan gliciwch ar 'OK', fe ddylai hyn sicrhau fod y dudalen yr ydych yn edrych arni yn ymddangos gyda'ch manylion

I newid lliw'r testun a'r cefndir:

  • Ewch i 'Internet Options' (fel uchod) a dewiswch 'Colours'.
  • Gallwch newid y testun a lliw'r dudalen gefndir yn ogystal â'r lliw yr ymddengys y dolenni drwy glicio 'OK'
  • Dewiswch 'Accessibility' o fewn 'Internet Options' a chliciwch ar 'Ignore colours specified on Web pages'
  • Pan ydych yn clicio 'OK', fe ddylai hyn sicrhau fod y dudalen yr ydych yn ei wylio yn ymddangos gyda'ch manylion

I ddefnyddwyr Netscape

I newid maint y ffont:

  • Ewch i 'View' ac yna dewiswch 'Increase Format' cymaint o weithiau ag y mynnwch i ddod o hyd i'r ffont addas i chi

I newid math y ffont:

  • Ewch i 'Edit' 'Preferences', 'Appearance', 'Fonts' a dewiswch 'Use my default fonts, overriding document-specified fonts'. Fe fydd hyn yn sicrhau y bydd y font sydd wedi ei osod yn barod yn cael ei anwybyddu gan y porwr.

I newid lliw'r testun a'r cefndir:

  • Ewch i 'Preferences', 'Appearance', 'Colours' a dewiswch 'Always use my colours, overriding document,' ac yna dewiswch y lliwiau priodol


*
*
*
maint y testun increase font size decrease font size
*
*

© Hawlfraint cynllunio mewnol gloss
Dyluniwyd a datblygwyd gan Staziker Jones | Hygyrchedd | Clodrestr

*
*
*
*